We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

Pendevig I

by Pendevig

/
  • Streaming + Download

    Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    Purchasable with gift card

      £7 GBP  or more

     

  • Compact Disc (CD) + Digital Album

    Pendevig's debut album.
    Albym cyntaf Pendevig.

    Includes unlimited streaming of Pendevig I via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    ships out within 2 days
    Purchasable with gift card

      £10 GBP or more 

     

1.
Lliw Gwyn 05:42
LLIW GWYN "Dydd da fo i ti seren olaf, Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf, Tydi yw’r gywrain ferch a garaf, Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf." “Wel, cau dy geg yr hen oferddyn, Y casaf eiriod ar wyneb y tir! Mi grogaf fy hun cyn dof i’th ganlyn, Mewn gair, dyna ti’r gwir.” “Y mae dy gusan di, fanwylyd, Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf, R’un fath a duliau mel bob munud, Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf.” “Ac felly mae dy gusan dithau, Y casaf eiriod ar wyneb y tir, Yn ail i gam, yn ail i minau, R’hen geg, dyna ti’r gwir!” “Dywed i mi pryd cawn briodi, Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf, Gwn dy fod yn eiddo imi, Lliw gwyn Rhosyn yr haf.” “Pan weli di’r gath yn byta’r pwdin, Y casaf eiriod ar wyneb y tir! A buwch Sion Puw yn gwneud menyn R’hen geg, dyna ti’r gwir!” “Os wyt ti am roi fi heibio, Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf, Wel dyro gusan cyn farwelio, Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf.” “Wel… waeth i mi ddweud y gwir na pheidio, Y mwynaf eriod ar wyneb y tir, Cest ddwy o’r blaen, cei bymtheg eto. Mewn gair, dyna ti’r gwir.” GWELD un diwrnod hir fel blwyddyn roedd llwch y stafell flaen fel sêr yn disgyn pan ddwedodd o yn ei ddagrau na allai o ddim a dy adael di mor agored â llyfr ar ei hanner; mor noeth â thudalen mwythaist ei hen grysau drwy’r dydd a chyfri’r botymau drwy dy fysedd; un-dau- ac yna’r tusw gwag o edau -pedwar-pump swatio fel dwrn mewn cesail o wely; ac yn y tŷ, byw ar bererindod araf, rhwng cawod llugoer a chegin. daeth dy ffrindiau’n resi distaw i dalu’r deyrnged olaf i’r hyn a allai fod wedi bod yn rhywbeth nad oedd o erioed a chefaist, yng ngwin eu chwerthin dy wynt atat; craciodd yr haul dy ddwrn ar agor fel cragen las, ac anadlaist, ond erbyn anadlu, roeddan nhw wedi mynd; wedi blino arnat ti’n tywallt dy hun drwy’r gobennydd. yn y boreau min-rasal roeddet ti’n deffro’n chwilio hyd orwelion y gwely, yn cydio’n dynn ym mhorslen y sinc a chrïo i’r drych; taenu’r dyddiau’n denau fel menyn, a min nos, dawnsiet i’w hen ganeuon â’th lygaid ar gau. * un diwrnod hir fel blwyddyn rwyt ti’n anadlu eto, â sŵn asennau’n cracio fel brigau Ionawr; a gwingo, mor las â’r geni mae’r dydd yn dy lenwi; yn cleisio dy ysgyfaint brau ac rwyt ti’n ei frwydro - y dieithryn hwn sy’n diosg dy gragen fel deilen; dy ddadelfennu. yn y nos, weithiau, â rhuban o ddagrau’n disgyn ar gynfasau oer; rwyt ti’n cau’n glep am dy berfedd a thynnu’r llenni’n dynn ond daw fory bob dydd i lacio dy afael, ac heddiw rwyt ti’n pwytho botwm ar hen grys a’i smwddio’n onglau sgwâr.
2.
Pen y Fan 05:52
3.
4.
Os yw fy annwyl gariad yn caru dwy neu dair, ac yn eu cadw'n fodlon bob marchnad a phob ffair; o peidied yntau meddwl fod hynny'n boen i mi, rwyf fi mor rhydd ag yntau i garu dau neu dri. Phrioda'i ddim eleni, chwedleua'i ddim am neb, twyllodrus iawn yw meibion a fedrant ddweud yn deg. Po deced bo nhw'n dwedyd, O! gwaetha'i gyd y daw, llawenydd pob merch ifanc yw'i dewis ar ei llaw. Os oes rhyw dair neu bedair yn hoff ohono ef, mae gennyf innau bedwar ar bymtheg yn y dref; Ond nhw sy'n dweud fel yma, a nhw sy'n dweud fel hyn, dwyf fi ond gwenu arnynt, a dal fy serch yn dynn. Mae'n dweud fy mod i'n euog oherwydd gwrid fy moch, os gwrida ef yn welw, mi wrida innau'n goch; A dwedaf yn ei wyneb ag wyneb dewr pob dyn, 'Llawenydd merch melinydd yw caru dim ond un.'
5.
Sycharth 05:10
6.
Pendevig 05:33
7.
Er a welais dan y ser O lawnder glewder gwledydd O gwrw da a gwyr i'w drin A gwin ar fin afonydd, Gorau bir a gorau bwyd A ranwyd i Feirionydd Annwyl yw gan adar byd Eu rhyddid hyd y coedydd, Annwyl yw gan faban laeth Ei famaeth odiaeth ddedwydd Ow ni ddwedwn yn fy myw Mor annwyl yw Meirionydd Mwyn yw telyn o fewn ty Lle byddo teulu dedwydd, Pawb a'i benill yn ei gwrs Heb son am bwrs y cybydd, Mwyn yw can oddeutu'r tan, Morwynion glan Meirionydd Er bod fy nghorff mewn hufen byd Yn rhodio hyd y gwledydd Yn Cael pleser mor a thir, Ni chaf yn wir mo'r llonydd, Myned adre i mi sydd rhaid, Mae'r enaid ym Meirionydd.
8.
9.
Alban Hefin 06:19

credits

released March 8, 2018

Cynhyrchwyd gan/Produced by Sam Humphreys
Recordiwyd yn/Recorded at Monnow Valley Studio, Rockfield
Peirianwyd gan/Engineered by Beau Blaise
Peirionu ychwanegol gan/Additional engineering by Edie Phillips, Sam Humphreys and Steffan Pringle
Cymysgwyd gan/Mixed by Sam Humphreys
Mastrwyd gan/Mastered by Donal Whelan (Hafod Mastering)

Trefniadau cerddorol gan/Music arranged by Pendevig (PRS/MCPS)
Trefniadau cerddorol ychwanegol gan/Additional arranging by Patrick Rimes

Ffotograffiaeth gan/Photography by Richard P Walton
Celf gan/Artwork by Rick Chitty, Ctrl Alt Design
Dyluniad y clawr/Sleeve layout by Sam Humphreys

license

all rights reserved

tags

about

Pendevig Wales, UK

Adwaith drydanol i draddodiad / An electic reaction to tradition

Pendevig are a Welsh folk soupergroup, bringing together some of the leading lights of the scene today including members of Calan, Jamie Smith's Mabon, Plu, and poetry from award winning poet Iestyn Tyne. Pendevig know how to own a tradition and also turn it inside out. ... more

contact / help

Contact Pendevig

Streaming and
Download help

Report this album or account

If you like Pendevig, you may also like: