1. |
Lliw Gwyn
05:42
|
|||
LLIW GWYN
"Dydd da fo i ti seren olaf,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf,
Tydi yw’r gywrain ferch a garaf,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf."
“Wel, cau dy geg yr hen oferddyn,
Y casaf eiriod ar wyneb y tir!
Mi grogaf fy hun cyn dof i’th ganlyn,
Mewn gair, dyna ti’r gwir.”
“Y mae dy gusan di, fanwylyd,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf,
R’un fath a duliau mel bob munud,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf.”
“Ac felly mae dy gusan dithau,
Y casaf eiriod ar wyneb y tir,
Yn ail i gam, yn ail i minau,
R’hen geg, dyna ti’r gwir!”
“Dywed i mi pryd cawn briodi,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf,
Gwn dy fod yn eiddo imi,
Lliw gwyn Rhosyn yr haf.”
“Pan weli di’r gath yn byta’r pwdin,
Y casaf eiriod ar wyneb y tir!
A buwch Sion Puw yn gwneud menyn
R’hen geg, dyna ti’r gwir!”
“Os wyt ti am roi fi heibio,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf,
Wel dyro gusan cyn farwelio,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf.”
“Wel… waeth i mi ddweud y gwir na pheidio,
Y mwynaf eriod ar wyneb y tir,
Cest ddwy o’r blaen, cei bymtheg eto.
Mewn gair, dyna ti’r gwir.”
GWELD
un diwrnod hir fel blwyddyn
roedd llwch y stafell flaen fel sêr
yn disgyn
pan ddwedodd o yn ei ddagrau
na allai o ddim
a dy adael di mor agored â llyfr
ar ei hanner; mor noeth â thudalen
mwythaist ei hen grysau
drwy’r dydd
a chyfri’r botymau drwy dy fysedd;
un-dau- ac yna’r tusw gwag
o edau -pedwar-pump
swatio fel dwrn mewn cesail
o wely; ac yn y tŷ, byw ar
bererindod araf, rhwng
cawod llugoer
a chegin.
daeth dy ffrindiau’n resi
distaw
i dalu’r deyrnged olaf i’r
hyn a allai fod wedi bod
yn rhywbeth nad oedd o erioed
a chefaist, yng ngwin eu chwerthin
dy wynt atat; craciodd
yr haul dy ddwrn ar agor
fel cragen las, ac anadlaist,
ond erbyn anadlu, roeddan nhw
wedi mynd;
wedi blino arnat ti’n
tywallt dy hun drwy’r gobennydd.
yn y boreau min-rasal
roeddet ti’n deffro’n chwilio
hyd orwelion y gwely, yn
cydio’n dynn ym mhorslen y sinc
a chrïo i’r drych;
taenu’r dyddiau’n denau fel menyn,
a min nos, dawnsiet i’w hen
ganeuon â’th lygaid ar gau.
*
un diwrnod hir fel blwyddyn
rwyt ti’n anadlu eto, â sŵn asennau’n
cracio fel brigau Ionawr;
a gwingo, mor las â’r geni
mae’r dydd yn dy lenwi; yn cleisio
dy ysgyfaint brau
ac rwyt ti’n ei frwydro - y dieithryn hwn
sy’n diosg dy gragen fel deilen;
dy ddadelfennu.
yn y nos, weithiau, â
rhuban o ddagrau’n
disgyn ar gynfasau oer;
rwyt ti’n cau’n glep
am dy berfedd
a thynnu’r llenni’n dynn
ond daw fory bob dydd
i lacio dy afael, ac heddiw
rwyt ti’n pwytho botwm ar
hen grys
a’i smwddio’n onglau sgwâr.
|
||||
2. |
Pen y Fan
05:52
|
|||
3. |
Hela'r 7 Sgwarnog
03:16
|
|||
4. |
Merch y Melinydd
02:55
|
|||
Os yw fy annwyl gariad
yn caru dwy neu dair,
ac yn eu cadw'n fodlon
bob marchnad a phob ffair;
o peidied yntau meddwl
fod hynny'n boen i mi,
rwyf fi mor rhydd ag yntau
i garu dau neu dri.
Phrioda'i ddim eleni,
chwedleua'i ddim am neb,
twyllodrus iawn yw meibion
a fedrant ddweud yn deg.
Po deced bo nhw'n dwedyd,
O! gwaetha'i gyd y daw,
llawenydd pob merch ifanc
yw'i dewis ar ei llaw.
Os oes rhyw dair neu bedair
yn hoff ohono ef,
mae gennyf innau bedwar
ar bymtheg yn y dref;
Ond nhw sy'n dweud fel yma,
a nhw sy'n dweud fel hyn,
dwyf fi ond gwenu arnynt,
a dal fy serch yn dynn.
Mae'n dweud fy mod i'n euog
oherwydd gwrid fy moch,
os gwrida ef yn welw,
mi wrida innau'n goch;
A dwedaf yn ei wyneb
ag wyneb dewr pob dyn,
'Llawenydd merch melinydd
yw caru dim ond un.'
|
||||
5. |
Sycharth
05:10
|
|||
6. |
Pendevig
05:33
|
|||
7. |
||||
Er a welais dan y ser
O lawnder glewder gwledydd
O gwrw da a gwyr i'w drin
A gwin ar fin afonydd,
Gorau bir a gorau bwyd
A ranwyd i Feirionydd
Annwyl yw gan adar byd
Eu rhyddid hyd y coedydd,
Annwyl yw gan faban laeth
Ei famaeth odiaeth ddedwydd
Ow ni ddwedwn yn fy myw
Mor annwyl yw Meirionydd
Mwyn yw telyn o fewn ty
Lle byddo teulu dedwydd,
Pawb a'i benill yn ei gwrs
Heb son am bwrs y cybydd,
Mwyn yw can oddeutu'r tan,
Morwynion glan Meirionydd
Er bod fy nghorff mewn hufen byd
Yn rhodio hyd y gwledydd
Yn Cael pleser mor a thir,
Ni chaf yn wir mo'r llonydd,
Myned adre i mi sydd rhaid,
Mae'r enaid ym Meirionydd.
|
||||
8. |
Rockfield Reels
05:43
|
|||
9. |
Alban Hefin
06:19
|
Pendevig Wales, UK
Adwaith drydanol i draddodiad / An electic reaction to tradition
Pendevig are a
Welsh folk soupergroup, bringing together some of the leading lights of the scene today including members of Calan, Jamie Smith's Mabon, Plu, and poetry from award winning poet Iestyn Tyne. Pendevig know how to own a tradition and also turn it inside out.
... more
Streaming and Download help
If you like Pendevig, you may also like:
Bandcamp Daily your guide to the world of Bandcamp